Mae dod o hyd i gysondeb ac ymrwymo i'ch iechyd erioed wedi bod mor hawdd!
P'un a ydych chi'n fam neu'n nain blinedig, yn entrepreneur prysur, neu'n rhywun sy'n jyglo miliwn o bethau - rydyn ni'n gobeithio y bydd ein dosbarthiadau a'n digwyddiadau ar-lein neu wyneb yn wyneb yn rhoi'r cyfle i chi gymryd SAIB a blaenoriaethu'ch hun a eich lles, fel y gallwch chi deimlo'n dawelach, yn fwy maethlon, ac yn fwy egniol!
Ymunwch gyda ni’n fyw
Ymunwch â ni yn fyw yn ein stiwdio hardd yn Eryri am brofiad adfywiol! Rydym yn cynnig dosbarthiadau Ioga, Pilates, Mat Barre, Sound Bath a digwyddiadau cyffroes! Mae gennym rywbeth i'ch helpu i ymlacio, cryfhau ac adfer. Dewch i symud, anadlu, ac ymlacio gyda ni yn y lleoliad heddychlon yma.
Ymunwch gyda ni ar-lein
Mae'n bosib ymarfer Yoga a Barre unrhyw bryd, unrhyw le gyda'n haelodaeth ar-lein sy'n cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau a rhaglenni sy'n cyd-fynd â'ch amserlen a'ch gallu.
Mae ein haelodaeth ar-lein hefyd yn cynnwys llyfrgell enfawr o ryseitiau maethlon i'ch ysbrydoli o wythnos i wythnos i deimlo'n dda o'r tu mewn-allan!
Hyfforddiant Iechyd
Rwy'n rhannu ychydig bach am fy stori isod, sy'n esbonio pam wnes i hyfforddi fel Hyfforddwr Iechyd ond efallai eich bod chi'n pendroni, beth ar y ddaear yw Hyfforddwr Iechyd?!
Y rhan fwyaf o'r amser, rydyn ni'n gwybod beth i'w wneud. Rydyn ni'n gwybod sut i fod yn iach ond yr hyn sy'n wirioneddol anodd yw gwneud i'r newidiadau rydyn ni eu heisiau para!
Ydych chi erioed wedi penderfynu cadw at drefn iechyd benodol dim ond i, mewn ychydig fisoedd, wythnosau neu hyd yn oed ddyddiau'n wedyn, roi'r gorau iddi, ac unwaith eto rhoi lan ar y nod yr oeddech wedi bod yn ceisio ei gyrraedd ers degawdau?
Fel hyfforddwr iechyd, wrth gwrs gallaf eich arwain, cynnig atebion, awgrymiadau, rhoi hwb i'ch hyder a rhannu cymaint o fy ngwybodaeth â chi â phosibl ond fy rôl bwysicaf fydd eich cadw'n atebol a'ch cael i feddwl am osod nodau CAMPUS, realistig fel eich bod yn y diwedd nid yn unig yn gallu cyrraedd eich nod ond y nod hwnnw'n dod yn pwy ydych chi yn ddi-dor.
Bydd y newidiadau a wnewch yn dod yn ffordd o fyw i chi ac felly nid oes unrhyw ildio, dim dychwelyd i hen arferion a dim mwy o aros tan ddydd Llun i ymrwymo unwaith eto.
Os hoffech chi ddysgu mwy am Hyfforddi Iechyd a cysylltu, cliciwch ar y ddolen isod!
Helo, Ceri ydw i!
Hyfforddwr Iechyd Maeth Ardystiedig, athrawes Ioga a Barre!
Treuliais ddegawd o fy mywyd yn meddwl bod yn rhaid i mi fod yn denau i gael fy hoffi a'm derbyn. Roedd hyn yn golygu bod gen i berthynas ofnadwy gyda bwyd ac un gwaeth fyth gyda fi fy hun. Doedd gen i ddim hyder ac roeddwn yn y cylch cyson yma o fwyta mewn pyliau neu amddifadu fy hun o fwyd.
Doedd gen i ddim syniad sut i fod yn iach ond wedyn ffeindiais i Yoga!
Fe wnaeth ymrwymo i ymarfer Ioga rheolaidd drawsnewid nid yn unig fy iechyd corfforol ond meddwl hefyd a'm harwain i fod eisiau dod o hyd i hyd yn oed mwy o ffyrdd i faethu fy hun. Hyfforddais fel athrawes Yoga a Barre a Hyfforddwr Iechyd Maeth Ardystiedig i allu rhannu'r holl arferion anhygoel a helpodd fi i wella a chodi fy hunanwerth ac felly, ganed SAIB!
Crëwyd SAIB i fynd â’r straen a’r gwaith dyfalu allan o fyw ffordd iachach o fyw, gan eich helpu i ddod â lles i mewn i’ch cartref yn ddi-dor gydag amserlenni ymarfer wythnosol, ryseitiau a dosbarthiadau sy’n cyd-fynd â hyd yn oed y ffordd brysuraf o fyw.
Fy ngobaith yw y bydd yr aelodaeth hon yn eich helpu i ymrwymo o'r diwedd i'r arferion iach rydych chi wedi bod eisiau eu cyflwyno i'ch bywyd erioed!